Cymdeithas Hanes

Llanfallteg History Book Cover

Dechreuodd y Gymdeithas Hanes yn 2003 gyda chwe aelod oedd ag amrywiol ddiddordebau yn hanes yr ardal y maent yn byw ynddi.

Cronnwyd eu gwybodaeth a defnyddiwyd hyn yn 2003 i gynnal yr arddangosfa gyntaf yn Neuadd y Mileniwm. Denodd y digwyddiad hwn ychydig yn fwy o aelodau a llawer mwy o wybodaeth. Ymgymerwyd â llawer o drywyddau ymchwil a’r flwyddyn ganlynol cynhaliwyd ail arddangosfa dros gyfnod o dri diwrnod. Daeth tua 200 o ymwelwyr gyda nifer ohonynt wedi’u synnu ynghylch faint o hanes a chefndir oedd i’r gymuned a’i chyffiniau, a pha mor amrywiol ydoedd.

Mae aelodaeth bellach wedi cyrraedd 13 o fynychwyr rheolaidd. Yn ystod tywydd braf mae cyfres o ymweliadau maes â safleoedd o ddiddordeb lleol, a bydd yr arfer hwn yn parhau. Yn ystod y gaeaf rydym wedi trefnu siaradwyr gwadd a’n “sioeau sleidiau” ein hunain yn ôl diddordebau penodol yr aelodau, ac mae’r rhain wedi’u cefnogi’n dda a’u gwerthfawrogi’n fawr.

Mae rhan o’r grŵp yn paratoi ac yn ymchwilio ymhellach i’r wybodaeth sydd gennym eisoes er mwyn cael darlun mor llawn â phosib, gyda’r bwriad o gynhyrchu cofnod parhaol o’n hanes lleol.

Mae’r grŵp yn cwrdd ar sail ad hoc. Cysylltwch â’r ysgrifennydd i gael gwybod beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf.

Ym mis Mawrth 2009, cyhoeddodd y Gymdeithas lyfr hanes lleol “Hanes Pentref yng Ngorllewin Cymru – Llanfallteg” ISBN 978-0-9562134-0-2. Cafodd dderbyniad da iawn yn lleol ac yn ehangach. Mae copïau ar gael yn Hendygwyn a llyfrgelloedd cangen eraill, yn ogystal ag yn ein hysgolion lleol. Gellir prynu copïau gan yr Ysgrifennydd, Siop Lyfrau Amgueddfa Arberth, Swyddfa Bost Llanfallteg a’r Plash Inn. Pris £10.

Rhestrir swyddogion y gymdeithas ar y dudalen gysylltiadau.

This page is also available in: English