Cymuned (Plwyf) Henllanfallteg

Cymuned (plwyf dinesig yn Lloegr) yw Henllanfallteg.  Hi yw un o’r saith deg a thair o gymunedau sy’n ffurfio Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei ffurfio yn y 1930au yn bennaf trwy uno hen blwyfi Llanfallteg, Gorllewin Llanfallteg a Henllan Amgoed a rhan fach iawn o Lan-gan.

Mae plwyfi yn hŷn na siroedd, a phan ffurfiwyd siroedd roedd plwyfi’n aml yn cael eu rhannu rhwng dwy sir. Ar un adeg roedd plwyf hynafol Llanfallteg wedi’i rannu rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, yn yr un modd â Llandissilio. Y rhan yn Sir Benfro oedd Gorllewin Llanfallteg a’r rhan yn Sir Gaerfyrddin oedd Llanfallteg.

Mae cymuned fodern Henllanfallteg yn cynnwys pentrefi a phentrefannau Llanfallteg, Henllan Amgoed, Cwmfelin Boeth, Hiraeth a Rhydywrach.

Ym mis Ebrill 2003 cynhaliwyd adolygiad o ffiniau, a thynnwyd rhan fach iawn o’r Gymuned i ffwrdd o Sir Gaerfyrddin a’i rhoi yn Sir Benfro ynghyd â Chymuned Clunderwen.

Cafodd cyfrifiad 2001 fod yna 163 o aelwydydd, gyda chyfanswm poblogaeth o 423. Roedd hwn yn rhannu yn 101 o dan 18 oed, 221 18 – 60 a 101 dros 60. Dywedodd ychydig dros 52% o boblogaeth y Gymuned eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

I weld copi o fap y Gymuned Cliciwch Yma.

This page is also available in: English